Daeth cynrychiolwyr o 7 ysgol i gwrs ddoe ar greu Proffiliau Dysgwyr. Trafodwyd cefndir y gwaith a'r gofynion statudol, cynnwys proffil dysgwyr a sut i gymedroli fel grwp clwstwr. Y cam nesaf nawr fydd cwrdd fel clwstwr CA2/CA3 a chasglu tystiolaeth gan ddysgwyr unigol Bl.6 a Bl.9 ymhob targed cyrhaeddiad. Cafodd clwstwr Cathays gyfarfod y bore 'ma ac eisoes wedi dechrau ar y gwaith - chwarae teg iddyn nhw!
Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ar y cwrs.
Cymraeg Ail Iaith Uwchradd Caerdydd
Tuesday, 16 November 2010
Tuesday, 9 November 2010
Cyfarfod athrawon chweched dosbarth
Cawsom gyfarfod buddiol iawn ddoe o athrawon chweched dosbarth. Roedd cynrychiolwyr yma o ysgolion Esgob Llandaf, Cantonian, Llanisien, Caerdydd a Choleg Dewi Sant.
Trafodwyd newidiadau 2011 i drefniant dosbarthiadau 16+, trefnu gweithgareddau ar y cyd ac anghenion adnoddau. Cytunwyd y byddem yn cyfarfod yn rheolaidd unwaith y tymor.
Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i'r cyfarfod.

Thursday, 21 October 2010
Gweithdy TGAU Newydd
Diolch yn fawr iawn i'r athrawon ddaeth i'r gweithdy heddi ar y TGAU newydd. Roedd 10 o bobl wedi dod gyda chynrychiolwyr o Ysgolion Uwchradd Caerdydd, Cathays, Corpus Christi, Fitzalan, Glyn Derw, Llanisien, Rhymni a Teilo Sant.
Rhannwyd adnoddau, syniadau a chynlluniau ar gyfer y TGAU newydd a chytunwyd i rannu adnoddau a newyddion ein gilydd trwy'r blog newydd hwn a Moodle Caerdydd.
Rhannwyd adnoddau, syniadau a chynlluniau ar gyfer y TGAU newydd a chytunwyd i rannu adnoddau a newyddion ein gilydd trwy'r blog newydd hwn a Moodle Caerdydd.
Subscribe to:
Posts (Atom)