Cawsom gyfarfod buddiol iawn ddoe o athrawon chweched dosbarth. Roedd cynrychiolwyr yma o ysgolion Esgob Llandaf, Cantonian, Llanisien, Caerdydd a Choleg Dewi Sant.
Trafodwyd newidiadau 2011 i drefniant dosbarthiadau 16+, trefnu gweithgareddau ar y cyd ac anghenion adnoddau. Cytunwyd y byddem yn cyfarfod yn rheolaidd unwaith y tymor.
Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i'r cyfarfod.
No comments:
Post a Comment