Tuesday, 16 November 2010

Cwrs Proffiliau Dysgwyr

Daeth cynrychiolwyr o 7 ysgol i gwrs ddoe ar greu Proffiliau Dysgwyr.  Trafodwyd cefndir y gwaith a'r gofynion statudol, cynnwys proffil dysgwyr a sut i gymedroli fel grwp clwstwr.  Y cam nesaf nawr fydd cwrdd fel clwstwr CA2/CA3 a chasglu tystiolaeth gan ddysgwyr unigol Bl.6 a Bl.9 ymhob targed cyrhaeddiad.  Cafodd clwstwr Cathays gyfarfod y bore 'ma ac eisoes wedi dechrau ar y gwaith - chwarae teg iddyn nhw!

Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ar y cwrs.

Tuesday, 9 November 2010

Cyfarfod athrawon chweched dosbarth

Cawsom gyfarfod buddiol iawn ddoe o athrawon chweched dosbarth.  Roedd cynrychiolwyr yma o ysgolion Esgob Llandaf, Cantonian, Llanisien, Caerdydd a Choleg Dewi Sant.

Trafodwyd newidiadau 2011 i drefniant dosbarthiadau 16+, trefnu gweithgareddau ar y cyd ac anghenion adnoddau.  Cytunwyd y byddem yn cyfarfod yn rheolaidd unwaith y tymor. 

Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i'r cyfarfod.